Gemau'r Gymanwlad: Proffil y rhedwr Dewi Griffiths
Mae Gold Coast ar y gorwel, gyda Gemau'r Gymanwlad yn dechrau yn Awstralia ymhen ychydig dros ddeufis.
Bedair blynedd yn ôl cafodd y rhedwr Dewi Griffiths gemau siomedig wrth iddo anafu ei droed cyn rhedeg yn Glasgow.
Yn y diweddaraf yng nghyfres Newyddion 9 yn edrych ar y Cymry fydd yn cystadlu eleni, mae'r athletwr o Lanfynydd yn Sir Gâr yn dweud ei fod yn benderfynol o greu gwell argraff yn Awstralia eleni.