Y cyhoedd 'ar y blaen' i wleidyddion
100 mlynedd yn ôl cafodd rhai menywod dros 30 oed y bleidlais ym Mhrydain am y tro cyntaf.
Yn ôl Llywydd y Cynulliad, Elin Jones mae'r cyhoedd "llawn mor gyfforddus" pleidleisio ar gyfer dyn neu fenyw erbyn hyn.
Mae'n dweud bod y bobl ar y blaen i'r pleidiau gwleidyddol a sefydliadau o ran hynny a bod hi'n amser "dal lan" gyda nhw a sicrhau bod yna gyfartaledd.