Cynnig cyngor i drigolion wedi llifogydd Ynys Môn
Bron i dri mis wedi llifogydd difrifol yng nghanol Llangefni, mae nifer o fusnesau'r dref yn dal i weithio i drwsio'r difrod.
Cafodd dros 30 o gartrefi a siopau eu taro wedi i afon Cefni orlifo ei glannau.
Dydd Llun bu Cyfoeth Naturiol Cymru'n cynnal cyfarfod i drafod sut i leihau'r tebygrwydd o orlifo tebyg yn y dyfodol.
Dyma rai o'r bobl gafodd eu heffeithio gan y llifogydd.