Rhai o berchnogion cychod Ceredigion yn anfodlon
Mae perchnogion cychod yn anfodlon ar ôl penderfyniad i gynyddu ffioedd angori mewn tri harbwr yng Ngheredigion.
Cymaint yw'r gwrthwynebiad yn Aberaeron i'r codiad dadleuol o 25% fel bod un cynghorydd sir yn bwriadu gofyn am graffu ar y penderfyniad.
Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion bod hwn yn gyfnod heriol yn ariannol.
Dyma adroddiad Aled Scourfield.