Siarad Cymraeg ar lwyfan y BAFTAs
Mae ffilm gan gyfarwyddwr o Gaerdydd wedi ennill gwobr ffilm gyntaf orau yng Ngwobrau'r BAFTAs nos Sul.
Rungano Nyoni oedd cyfarwyddwr I Am Not A Witch, sy'n adrodd hanes merch wyth oed o Zambia sy'n cael ei chyhuddo o fod yn wrach.
Fe wnaeth Ms Nyoni hefyd siarad ychydig o Gymraeg ar y llwyfan, gan ddweud "diolch yn fawr", a gwneud yr un peth yn iaith Bemba Zambia.
Gwnaeth Ms Nyoni symud i Gaerdydd pan oedd yn wyth oed, ac fe dderbyniodd y wobr gyda chynhyrchydd y ffilm, Emily Morgan.
Cafodd y ffilm gefnogaeth ariannol gan Ffilm Cymru, ac fe wnaeth Ms Nyoni ddiolch iddynt ar y llwyfan.