'Hogi' sgiliau gyda chyfleoedd ychwanegol Ysgol y Pant
Mae'r ysgrifennydd addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi y bydd £3m ar gael dros ddwy flynedd i ddatblygu dull newydd i ddarganfod a chefnogi'r dysgwyr mwyaf galluog.
Bydd cynllun Seren, sy'n rhoi cymorth i ddisgyblion i ennill llefydd yn y prifysgolion gorau, yn cael ei ehangu i gynnwys disgyblion iau.
Yn ddiweddar mae Estyn wedi dweud eu bod yn pryderu nad yw'r disgyblion mwyaf abl yn cael digon o sylw yn ein hysgolion.
Un sy'n dweud ei fod wedi elwa o'r cyfleoedd sydd yn ei ysgol yw Daniel, sy'n ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol y Pant.