Dechrau trafod cynlluniau i gwtogi nifer cynghorau

Mae Llywodraeth Cymru wedi atgyfodi cynlluniau a allai weld nifer y cynghorau yng Nghymru yn cael eu torri i gyn lleied â deg awdurdod.

Dywedodd y gweinidog sy'n gyfrifol am lywodraeth leol, Alun Davies AC ei fod yn derbyn na all pethau barhau fel y maent, gan ddweud "fod yn rhaid i'r cam nesaf newid y gêm".

Mae uno gwirfoddol neu uno fesul cam ymhlith yr opsiynau sy'n cael eu hystyried.