BBC Cymru Fyw

'Colli hyder' yn sgil bwlio honedig yn Mind Cymru

Mae rhai o gyn-weithwyr Mind Cymru yn dweud bod "diwylliant gwenwynig o fwlio" yn yr elusen.

Yn ôl y cyn-staff roedd y bwlio yn systemig gyda gweithwyr yn cael eu "hynysu" a'u tanseilio.

Mae Andrew Jones yn dweud fod y bwlio mae'n honni wnaeth o ddioddef wedi gwneud iddo golli hyder ac effeithio ar ei allu i weithio.

Dywedodd Mind Cymru bod lles eu staff yn "flaenoriaeth" a dim ond un honiad o fwlio gafodd ei gofnodi dros y ddwy flynedd diwethaf.