Myfyrwyr Meirion-Dwyfor yn creu argraff yn Yr Almaen

Mae nifer o fyfyrwyr cwrs weldio Coleg Meirion-Dwyfor wedi cael cynnig gwaith yn Yr Almaen wedi iddynt greu argraff yn ystod profiad gwaith.

Fe aeth 14 o fyfyrwyr campws Dolgellau i gael profiad gwaith yn ffatri wydr Weigand-Glas GmbH yn Steinbach am Wald, Bavaria.

Wedi iddynt dreulio pythefnos ym mhob adran o'r ffatri fe gawsant gynnig gwaith ac mae chwech ohonynt wedi derbyn.

Tiwtor y cwrs weldio, Gwyn Williams, sy'n egluro pam ei fod yn credu bod y myfyrwyr wedi gwneud cymaint o argraff.