Yr Hen Lyfrgell angen bod 'yng nghanol cymuned'
Mae yna ansicrwydd ynglŷn â dyfodol Canolfan Gymraeg yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd.
Fe agorwyd y ganolfan ym mis Chwefror 2016 gyda'r bwriad o fod yn ganolbwynt i fywyd Cymraeg y brifddinas.
Yn ôl adroddiad annibynnol, mae angen nifer o newidiadau a mwy o arian, ond mae Cyngor Caerdydd wedi dweud wrth Newyddion 9 na fyddan nhw'n "rhoi ceiniog arall i'r fenter".
Mae Heini Gruffudd, un o sylfaenwyr Canolfan Gymraeg Tŷ Tawe a chadeirydd Dyfodol i'r Iaith, yn dweud fod angen i'r ganolfan fod yng nghanol cymuned er mwyn llwyddo.