Cofio dau ddyn ifanc mewn gwylnos yn Rhuthun
Roedd tua 200 o bobl mewn digwyddiad yn Rhuthun nos Sul i gofio am dri o ddynion ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad ar gyrion Dinbych nos Wener.
Cafodd Michael Jones a Leon Rice, y ddau o ardal Rhuthun, ynghyd â Colin Hornsby o ardal Manceinion, eu lladd wedi gwrthdrawiad rhwng dau gar.
Fe yrrodd dros 30 o lorïau a thractorau drwy'r dref gyda cherbyd tad Michael Jones yn arwain y confoi.
Mae Islwyn Jones yn aelod o Gymdeithas Tryciau Gogledd Cymru, ac roedd yn bresennol yn yr wylnos.