Beth sy'n digwydd nesaf i Gymru wedi Brexit?
Yn dilyn cyfarfod gyda'r Prif Weinidog Theresa May yn Downing Street, mae arweinydd newydd Plaid Cymru, Adam Price yn egluro'r drafodaeth gafodd y ddau ynglŷn ag Economi Cymru wedi Brexit.
Yn ôl Adam Price fe gafodd materion trethi a phwerau benthyg i Gymru eu trafod gyda Theresa May mewn cyfarfod o tua 45 munud o hyd.
Dyma'r dro cyntaf i un o arweinwyr Plaid Cymru gynnal cyfarfod gyda phrif weinidog presennol yn Rhif 10, yn ôl y blaid.
Dywedodd Mr Price ei fod wedi "rhoi'r achos" dros Gymru.