'Peidiwch byth ag anghofio': Neges y cyn-filwr 100 oed
"Peidiwch byth ag anghofio" - dyna'r neges gan un cyn-filwr sydd newydd gyrraedd ei 100 oed.
Llwyddodd Douglas Owen, o Harlech yn wreiddiol, i ddianc o Dunkirk yn ystod yr Ail Ryfel Byd wrth i fyddin yr Almaen nesáu.
Wrth i Sul y Cofio agosáu, mae'n dweud bod angen gwerthfawrogi aberth milwyr y gorffennol er mwyn osgoi rhyfeloedd tebyg yn y dyfodol.
Bu'n siarad â gohebydd BBC Cymru, Llyr Edwards.