Capel Cymraeg Weston Rhyn yn cau
Fydd 'na ddim mwy o wasanaethau yn cael eu cynnal yng nghapel Weston Cymraeg Rhyn yn Sir Amwythig.
Ddydd Sul cafodd y gwasanaeth olaf ei gynnal wedi i'r aelodau bleidleisio o blaid uno ag Eglwys Gymraeg Unedig Seion yng Nglyn Ceiriog.
Yn ogystal bydd gwasanaethau achlysurol yn cael eu cynnal ar aelwydydd yr ardal fel yr eglura ysgrifennydd y capel Gwyn Evans.