'Cyfle i fod yn fwy na ffoaduriaid o Syria yn unig'
Mae rhai o'r menywod a ddaeth o Syria i ganolbarth Cymru wedi dod at ei gilydd i sefydlu cwmni bwyd newydd.
Fe wnaeth 120 o bobl ddod ynghyd i fwynhau'r wledd gafodd ei pharatoi ganddynt yn Aberystwyth, gydag un cwsmer newydd yn dweud ei bod hi'n "braf gweld cenhedloedd yn dod at ei gilydd".
Dywedodd Rose Bewick, sy'n gweithio i'r gwasanaeth ffoaduriaid yn y Groes Goch, fod digwyddiadau o'r fath yn rhan bwysig o integreiddio, gan roi cyfle i'r ffoaduriaid sydd wedi ymgartrefu yn y dref i fod yn "fwy na'r label yna".
"Mae ganddyn nhw rywbeth i'w rannu, rhywbeth gwerthfawr," meddai.