Ymchwilio i gyffur newydd i drin Fragile X
Mae mam o Ynys Môn yn "edrych ymlaen" at weld pa gyffuriau newydd sy'n cael eu datblygu gan wyddonwyr yng Nghaerdydd allai helpu cyflwr geneteg ei mab.
Mae gan Mikie, mab Helen Buckley, gyflwr Fragile X, sy'n gallu achosi anableddau dysgu.
Cafodd Y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ei lansio ym Mhrifysgol Caerdydd, yn dilyn buddsoddiad o bron i £14m.
Yn ôl yr Athro Simon Ward, cyfarwyddwr y sefydliad, eu gobaith yw gwneud pob dim yn bosib i "helpu'r rheiny sy'n dioddef, sydd â Fragile X, i ganolbwyntio'n well, i gael bywydau llawn".