'Ennill y gêm gyntaf yn hwb'
Roedd yna ddechrau buddugoliaethus i Gymru yng nghystadleuaeth yr Ewros brynhawn Sul wrth iddynt drechu Slofacia yng Nghaerdydd o gôl i ddim.
Daniel James sgoriodd y gôl a hynny wedi dim ond pum munud.
Er i Gymru fethu ymestyn y fantais roedd un o'r chwaraewyr, Joe Allen, wrth ei fodd â'r canlyniad, fel y bu'n dweud wrth Dylan Griffiths.