Gweinidog yn gwrthod ymyrryd yn ffrae hysbyseb swydd
Rhaid bod yn ofalus i beidio gwahaniaethu yn erbyn pobl sy'n methu siarad Cymraeg, yn ôl Gweinidog y Gymraeg.
Mae Eluned Morgan wedi gwrthod ymyrryd mewn ffrae ynghylch hysbyseb am swydd sy'n talu dros £100,000 y flwyddyn.
Does dim angen i ddirprwy brif weithredwr nesaf Cartrefi Cymunedol Gwynedd fedru'r iaith.
Wrth godi'r mater gyda'r gweinidog yn y Senedd dydd Mercher, fe awgrymodd AC Arfon, Siân Gwenllian bod yr hysbyseb yn gwbwl annerbyniol.
Adroddiad Sion Tecwyn.