'Ni'n teimlo'r straen yn ofnadwy'
Mae biliau treth y cyngor uwch yn cyfrannu at dlodi ymysg teuluoedd sy'n gweithio yn ol Sefydliad Bevan, sy'n ymchwilio i anghydraddoldeb a dulliau o leihau tlodi.
Y mis hwn bydd pobl yn dechrau talu eu biliau treth y cyngor uwch am y tro cyntaf.
Fe gododd y dreth yng Nghymru 6.5% ar gyfartaledd ond mae sawl cyngor wedi cymeradwyo cynnydd o dros 9%.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cynghorau wedi derbyn y “setliad gorau posib.”
Mae Jackie Owen yn rhedeg busnes yn Y Drenewydd ym Mhowys ac er ei bod hi a'i gŵr yn gweithio llawn amser, dywedodd bod talu'r biliau yn anodd hyd yn oed cyn i Bowys gyhoeddi cynnydd mawr yn nhreth y cyngor.