Rhyddhad bod neb wedi cael anaf wedi tân mynydd difrifol
Bu'n rhaid i ddegau o bobl adael eu cartrefi ym Mlaenau Ffestiniog yn gynnar bore Mawrth wedi tân mynydd difrifol dros nos.
Mae disgwyl y bydd criwiau tân yn treulio'n rhan helaeth o'r dydd yn ymateb i'r sefyllfa wedi'r alwad frys wreiddiol ychydig cyn 20:30 nos Lun.
Mae mwyafrif y trigolion wedi cael dychwelyd i'w cartrefi erbyn hyn.
Wrth ganmol yr ymdrechion i atal y fflamau rhag lledu ymhellach, dywedodd y cynghorydd sir Annwen Daniels y "bydd Cyngor Gwynedd yn gweithio'n agos 'efo'r frigâd dân" i weld a oes angen gweithredu i atal tanau mynydd.