Criwiau'n taclo tân Blaenau Ffestiniog

Mae tua 20 o deuluoedd wedi gorfod gadael eu cartrefi ym Mlaenau Ffestiniog yn ystod yr oriau mân wrth i'r gwasanaethau brys ddelio â thân mynydd sylweddol.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mae tua 30 o ddiffoddwyr yn dal yn ymateb i'r sefyllfa fore Mawrth.