Diffyg dyfarnwyr pêl-droed wedi gwaethygu
Mae rhybudd y gallai dyfodol rhai cynghreiriau pêl-droed fod yn y fantol cyn hir oni bai fod y broblem o brinder dyfarnwyr yn cael ei ddatrys.
Daw'r rhybudd gan ysgrifennydd un cynghrair yn y gogledd, wedi i bob un o'r gemau gael eu gohirio ar ddydd Sadwrn diweddar.
Yn ôl Trefor Jones, ysgrifennydd Cynghrair Dyffryn Clwyd a Chonwy, mae hi'n "broblem sydd angen ei datrys".
Dywedodd Bryn Griffiths o Fro Cernyw, sydd wedi bod yn chwarae ers 20 mlynedd, bod y prinder dyfarnwyr wedi gwaethygu.