'Dwi'n gobeithio allai stopio meddwl amdano fo rŵan'
Mae'r cyn-hyfforddwr pêl-droed, Barry Bennell, wedi cael dedfryd o bedair blynedd o garchar am droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn dau chwaraewr ifanc.
Roedd un o'r bechgyn yn dod o Wynedd gyda gyrfa ddisglair o'i flaen.
Cafodd Bennell ddedfryd o flwyddyn ar drwydded hefyd, ar ddiwedd ei gyfnod o garchar.
Dywedodd un o'r ddau ddioddefwr, Matthew Monaghan, wrth y llys mewn datganiad: "Fe ddifethodd Bennell freuddwydion fy mhlentyndod a chymryd hynny oddi wrtha i."
Wedi'r gwrandawiad, bu'n siarad gyda BBC Cymru am ei deimladau.