'Cyfnod clo arall ddim yn anochel'

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud fod y cyfnod clo byr diwethaf wedi arwain at "ostyngiad cyson" yng ngraddfa coronafeirws ar hyd y wlad.

Wrth siarad yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg ddydd Gwener, dywedodd Mr Drakeford mai Blaenau Gwent yw'r sir sydd â'r lefel uchaf o achosion yng Nghymru - gyda 350 achos ym mhob 100,000 o'r boblogaeth.

Y nifer ar Ynys Môn yw 20 achos ym mhob 100,000 meddai, ac mae nifer yr achosion ym Merthyr wedi gostwng o 770 achos i 250 achos ym mhob 100,000.

Dywedodd Mr Drakeford hefyd fod cyfnod clo arall "ddim yn anochel".