Storm Christoph: Glaw trwm yn taro Cymru

Mae afonydd wedi gorlifo a ffyrdd ynghau yn dilyn glaw trwm Storm Christoph dros rannau helaeth o Gymru.

Mae rhybudd melyn am law mewn grym gan y Swyddfa Dywydd, ac fe all hyd at 200mm o law ddisgyn mewn mannau.