'Diolch am bob neges o gydymdeimlad'

Mae teyrngedau lu wedi'u rhoi i dad ifanc o Sir Fôn wedi iddo farw o gymhlethdodau a ddeilliodd o Covid ddydd Gwener.

Roedd Huw Gethin Jones yn 34 oed - yn un o olygyddion fideo cwmni Rondo Media, yn un o gyfarwyddwyr Bragdy Mona, yn chwaraewr rygbi ac yn ganwr poblogaidd.

Dywed ei chwaer-yng-nghyfraith Catrin 'Toffoc' Jones bod y teulu wedi colli gŵr, tad, mab a brawd bendigedig ac mae am ddiolch, ar ran y teulu, i'r llu o bobl sydd wedi anfon negeseuon o gydymdeimlad.