Tokyo 2020: Gobeithion Takeshi

Mae Gemau Olympaidd Tokyo 2020 yn dechrau ar ddydd Gwener 23 Gorffennaf.

Mae yna deimladau cymysg wedi bod yn Japan am gynnal y gemau eleni, ac mae achosion COVID wedi bod ar gynnydd diweddar yn y wlad.

Ni fydd torf yn cael bod yn y stadiwm er mwyn gwylio'r cystadlu. Serch hynny mae Takeshi Koike sy'n byw yn Tokyo a sydd wedi dysgu Cymraeg yn benderfynol o fwynhau yr oll fydd gan Tokyo 2020 i'w gynnig. Yma mae Takeshi yn rhannu ychydig o'i obeithion.