Pryder bod golygu lluniau'n niweidiol i iechyd meddwl
Gwefusau mwy, trwyn syth, croen cliriach... Mae nifer yn golygu eu lluniau cyn postio nhw ar-lein.
Ond pa mor niweidiol ydy hyn i'n hiechyd meddwl?
Dywedodd un seicolegydd y gall golygu lluniau ohonoch eich hun arwain at fwy o bobl yn datblygu anhwylderau fel dismorffia'r corff.
Dywed Llywodraeth y DU eu bod am gyflwyno "cyfreithiau newydd llym" a fydd yn amddiffyn pobl rhag unrhyw gynnwys a allai "gael dylanwad niweidiol ar iechyd corfforol a meddyliol".