Traeth Coch: Cynlluniau atal llifogydd yn 'hollbwysig'
Mae Cyngor Môn wrthi'n ymgynghori ar gynlluniau atal llifogydd yn Nhraeth Coch ger Benllech.
Wyth mlynedd yn ôl cafodd cartrefi a busnesau eu taro gan lifogydd difrifol yn yr ardal, sy'n boblogaidd gydag ymwelwyr.
Mae pobl leol, fel cynifer o gymunedau arfordirol eraill, yn poeni am effaith cynyddol newid hinsawdd.
Rhai o'r busnesau gafodd eu heffeithio oedd tafarndai y Ship Inn a'r Boat House.