Elfyn Evans: 'Newidiadau mawr' cyn tymor newydd
Mae Pencampwriaeth Rali'r Byd 2022 yn cychwyn yr wythnos yma, gyda Rali Monte Carlo yn cael ei chynnal rhwng dydd Iau a dydd Sul.
Elfyn Evans, y gyrrwr o Ddinas Mawddwy, sy'n trafod y ceir 'hybrid' newydd maen nhw'n gorfod eu defnyddio, a'i obeithion o ennill y bencampwriaeth 'leni ar ôl gorffen yn ail yn 2020 a 2021.
Ein gohebydd chwaraeon, Owain Llyr, fu'n ei holi.