'Mae Huw yn dal i ddylanwadu ar bob dim dwi'n 'neud'

Mae hi bron yn 12 mis ers i Teleri Mair Jones golli ei gŵr.

Bu farw Huw Gethin Jones yn 34 oed, ag yntau heb unrhyw gyflyrau iechyd blaenorol.

Roedd Huw wedi gorfod mynd i'r ysbyty ar ôl bod yn wael iawn hefo Covid.

Er bod arwyddion ei fod yn gwella, cafodd ei drosglwyddo i Ysbyty Walton yn Lerpwl ar ôl cael clot ar yr ymennydd yn sgil cymhlethdodau. Bu farw ar 19 Chwefror 2021.

Mewn cyfweliad pwerus gyda BBC Cymru, mae Teleri yn rhannu ei phrofiad o golli ei chymar oes ac yn trafod y dyfodol gyda'i meibion.