Jack Lis: CCTV yn dangos ymddygiad ffyrnig ci
Mae deunydd CCTV yn dangos ymddygiad ffyrnig y ci wnaeth ladd Jack Lis, 10, yng Nghaerffili y llynedd.
Cafodd y deunydd ei chwarae yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, lle cafodd dau berson eu carcharu am farwolaeth y bachgen.
Cafodd Amy Salter, 29, o Drethomas, Caerffili ei dedfrydu i dair blynedd ac fe gafodd Brandon Hayden, 19, o Benyrheol, Caerffili ei ddedfrydu i bedair blynedd a chwe mis.
Fe wnaeth perchennog diwethaf y ci, oedd o'r enw Beast, ddweud wrth Hayden nad oedd "yn dda gyda chŵn eraill".