Seddi Laura i'w gwylio: UKIP

Yr wythnos hon ar BBC Cymru Fyw bydd yr Athro Laura McAllister yn bwrw golwg ar y seddi allweddol i bob un o'r pleidiau yn yr etholiad cyffredinol.

Mae hi'n dechrau gydag UKIP, ble mae'n dweud nad yw hi'n argoeli'n dda iddyn nhw o ran ennill unrhyw seddi yng Nghymru.

Ond fe allan nhw fod yn gystadleuol mewn sawl etholaeth yng nghymoedd y de, gan gynnwys Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Torfaen.